Dwr Cymru Welsh Water News

11 Nov 2022

Buddsoddiad Dŵr Cymru i gefnogi cwsmeriaid a gwelliannau amgylcheddol

Welsh Water investment to support customers and environmental improvements.

 

DATGANIAD I’R WASG

Mae cwsmeriaid a'r amgylchedd ar fin elwa ar fentrau mawr gan Dŵr Cymru, a wnaed yn bosibl gan ei fodel busnes nid-er-elw.

Wrth i bwysau costau byw gynyddu a gyda phwyslais ar leihau unrhyw effaith andwyol ar yr amgylchedd, mae'r cwmni'n cymryd camau i fanteisio'n llawn ar ei fodel gweithredu unigryw i gefnogi ei gwsmeriaid domestig a'r amgylchedd.

Mae Dŵr Cymru, sydd eisoes yn darparu cymorth ariannol i nifer mwy o gwsmeriaid nag unrhyw gwmni dŵr arall yng Nghymru a Lloegr, yn gymesur â maint y cwmni, wedi cadarnhau y bydd yn:

  • cynnal ei amrywiaeth o fesurau cefnogi i helpu cwsmeriaid i reoli eu biliau, er enghraifft gwyliau talu, cynlluniau talu hyblyg, a chyngor ar ffyrdd syml o leihau defnydd dŵr
  • buddsoddi £12 miliwn i ehangu'r cymorth ariannol i 50,000 o aelwydydd ychwanegol naill ai drwy ei gynllun "tariffau cymdeithasol" neu drwy gronfa gymunedol newydd
  • lansio cynllun treialu'r gronfa gymunedol ym mis Ionawr 2023 i dargedu cwsmeriaid sy'n cael trafferth gyda biliau domestig ond sy'n anghymwys ar gyfer budd-daliadau, ac felly tariffau cymdeithasol Dŵr Cymru.

Mae'r pwyslais ar y rhan y mae'r cwmni'n ei chwarae i amddiffyn ansawdd dŵr afonydd wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda Dŵr Cymru eisoes yn buddsoddi'n helaeth i leihau faint o ffosffad y mae’n ei roi i mewn i afonydd. Mae'r cwmni eisoes wedi ymrwymo i fuddsoddi £833 miliwn i wella’i asedau dŵr gwastraff, yn enwedig Gorlifoedd Storm Cyfun (CSOs) ar afonydd sensitif rhwng 2020 a 2025, ac mae hefyd wedi cyhoeddi buddsoddiad ychwanegol o £100 miliwn i helpu i amddiffyn ansawdd dŵr afonydd.

Mae’r buddsoddiad ychwanegol hwn yn caniatáu i'r cwmni gyflymu cynlluniau i osod mwy o blanhigion tynnu ffosffad mewn gwaith trin dŵr gwastraff (£60 miliwn) a lleihau effaith CSOs – yn enwedig y rhai sydd wedi'u lleoli ar hyd afonydd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) (£40 miliwn). Bydd hyn yn golygu buddsoddi yn ei brif asedau ar safleoedd fel Afon Menai (£10 miliwn), Aberhonddu (£6 miliwn), Trefynwy (£2 miliwn), Trebanos (£2 miliwn), yn ogystal â Llanybydder, Llanbedr Pont Steffan, Casblaidd, Corwen, Llan-ffwyst a Threletert (£20 miliwn). Bydd hefyd yn ei gwneud yn bosibl datblygu mwy o atebion sy'n seiliedig ar natur i helpu i wella ansawdd afonydd. Er enghraifft ar afon Gwy mae'r cwmni’n gweithio gyda Sefydliad Gwy ac Wysg a Chyngor Henffordd i gefnogi’r gwaith o dynnu ffosfforws ychwanegol gan ddefnyddio triniaeth naturiol drwy system wlyptir carbon isel a fydd hefyd yn gwella bioamrywiaeth leol.

Dywedodd y Cyng. Liz Harveu, Dirprwy Arweinydd Cyngor Swydd Henffordd: “Mae’r gwaith cydweithredol gyda Dŵr Cymru a Sefydliad Gwy ac Wysg yn dechrau symud y gwaith o adeiladu tai yn y sir unwaith eto yn raddol ac yn cyfrannu at wella’n hafonydd hefyd.”

Mae’r cyhoeddiad hwn am gyllid i gefnogi cwsmeriaid agored i niwed ac i amddiffyn yr amgylchedd yn dod wrth i'r cwmni adrodd ar ei ganlyniadau hanner blwyddyn. Er gwaethaf yr heriau ehangach y mae’r economi’n eu hwynebu, mae'r cwmni wedi cynnal perfformiad cryf. Mae hyn wedi cynnwys parhau i fuddsoddi ychydig dros £1 miliwn y dydd ar welliannau i'w rhwydweithiau dŵr a dŵr gwastraff.

Mae'r cwmni hefyd wedi cadarnhau ei fod yn gweithio ar gynllun i gefnogi ei weithwyr trwy'r argyfwng costau byw ac eisoes wedi gweithredu'r cynnydd i'r Cyflog Byw Gwirioneddol i'r holl weithwyr dan sylw.

Dywedodd Cadeirydd Glas Cymru, Alastair Lyons: "Mae ein model busnes nad yw’n cynnwys cyfranddalwyr yn ein gosod ar wahân i'r cwmnïau dŵr eraill yng Nghymru a Lloegr ac mae'n bwysig ein bod yn dangos sut y mae'n darparu budd diriaethol i'n cwsmeriaid. Felly rwy’n falch iawn, oherwydd nad oes angen gwobrwyo cyfranddalwyr, ei bod yn bosibl i ni gyhoeddi'r buddsoddiad ychwanegol hwn er budd ein cwsmeriaid a'r amgylchedd. Mae hyn yn adeiladu ar y miliynau o bunnoedd y mae ein model eisoes wedi ein galluogi i’w buddsoddi i helpu i gadw biliau cwsmeriaid yn fforddiadwy a chyflawni cynllun buddsoddi hanfodol i wella gwasanaethau i gwsmeriaid a lliniaru effaith ein gweithrediadau ar yr amgylchedd.”

Dywedodd Prif Weithredwr Dŵr Cymru, Peter Perry: "Mae'n ddealladwy bod yr argyfwng ariannol presennol yn gyfnod pryderus a bydd yn golygu y bydd mwy o gwsmeriaid yn cael eu hunain mewn sefyllfa lle maen nhw'n ei chael hi'n anodd talu eu biliau. Gyda’r nod o ennill ymddiriedaeth ein cwsmeriaid, rydym yn gwybod bod gennym ran bwysig i'w chwarae yma a dyna pam y byddwn yn cefnogi hyd yn oed mwy o gwsmeriaid yn y cyfnod hwn o angen. Ein cyngor i gwsmeriaid yw cysylltu â ni'r foment y mae’r bil yn achosi pryder fel y gallwn edrych i weld sut y gallwn roi cefnogaeth i leddfu'r pryder hwn.

"Yr un mor bwysig yw ein bod ni'n ymdrechu’n galetach i ddiogelu'r amgylchedd, yn enwedig ansawdd dŵr afonydd. Wrth i ddisgwyliadau newid, mae angen gwneud mwy, yn enwedig i leihau effaith CSOs. Nid yw eu tynnu o'n system garthffosiaeth yn gyfan gwbl yn opsiwn ond yr hyn sydd o fewn ein rheolaeth ni yw'r gallu i gyfeirio buddsoddiad at y CSOs hynny sy'n cael yr effaith fwyaf fel y gallwn wella’u perfformiad. Bydd y £100 miliwn ychwanegol yn ein galluogi i gyflwyno cynlluniau buddsoddi er mwyn helpu i gyflawni hyn a bydd yn adeiladu ar yr £833 miliwn yr ydym eisoes yn ei fuddsoddi yn ein rhwydwaith dŵr gwastraff hyd at 2025."

DIWEDD

Anfonwch ymholiadau at swyddfa wasg Dŵr Cymru ar 01443 452452

Gwybodaeth Cyswllt

Helen Lloyd-Jeng
Stakeholder Manager
Dwr Cymru Welsh Water
helen.lloyd-jeng@dwrcymru.com