31 Jul 2026
Mae Dŵr Cymru wedi diolch i gwsmeriaid ar draws canolbarth a de Ceredigion, gogledd Penfro a gogledd Sir Gâr am leihau eu defnydd o ddŵr yn sgil cyflwyno’r Gwaharddiad Dros Dro ar Bibellau Dyfrio.
Mae’r cwmni’n dweud bod cymorth cwsmeriaid wedi gwneud gwahaniaeth go iawn, gyda gostyngiad o tua 15% yn y galw am ddŵr ar draws rhwydwaith canol a de Ceredigion. Mae’r lefelau yn y tanciau storio danddaear yn dechrau ymadfer ar ôl sawl wythnos o alw digynsail. Er bod y sefyllfa wedi gwella, nid yw’r storfeydd wedi ymadfer yn ddigonol i godi’r cyfyngiadau’n ddiogel hyd yn hyn.
Mae’r Gwaharddiad Dros Dro ar Bibellau Dyfrio felly’n parhau wrth i’r cwmni barhau i ailadeiladu gwytnwch o fewn y rhwydwaith lleol ac amddiffyn cyflenwadau dŵr ar gyfer cartrefi, busnesau a gwasanaethau hanfodol.
Er bod y tymheredd wedi gostwng ers cyfnod brig y tywydd poeth diweddar, mae’r galw yn dal i fod yn uwch nac arfer, a bydd hi’n cymryd amser i’r rhwydwaith o danciau danddaear, sy’n cludo dŵr yfed wedi ei drin ar draws y rhwydwaith, ymadfer i lefelau cynaliadwy. Mae’r cronfeydd yma’n hanfodol i gynnal cyflenwadau dibynadwy, yn arbennig mewn cyfnodau o alw mawr.
Mae’r gweithfeydd trin yn parhau i weithredu ar gapasiti uwch nac arfer, gyda’r timau’n gweithio rownd y cloc i gynnal cyflenwadau, trwsio gollyngiadau a rheoli’r rhwydwaith yn ofalus.
Yn ystod Gorffennaf cafodd dros 226 o ollyngiadau eu trwsio ar draws yr ardal dan sylw. Fe gyflenwyd record o 1,000 megalitr o ddŵr yfed bob dydd ar draws ein hardal weithredol am 10 niwrnod yn olynol - mewn ymdrech weithredol ddigynsail i gynnal cyflenwadau cwsmeriaid wrth i’r storfeydd lleol ymadfer.
Mae rhai cwsmeriaid yn yr ardal wedi dioddef o doriad yn eu cyflenwad neu bwysedd isel yn ystod y cyfnod hwn o alw uchel am ddŵr. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achoswyd a diolchwn i gwsmeriaid am eu hamynedd wrth i ni drwsio'r nam a sicrhau bod y cyflenwadau'n ôl i'r arfer.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithrediadau Dŵr Cymru, Steve Wilson: “Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ein cynorthwyo ni trwy leihau eu defnydd o ddŵr dros y bythefnos ddiwethaf. Mae ymateb y cwsmeriaid wedi bod yn gadarnhaol iawn, ac mae eu hymdrechion yn gwneud gwahaniaeth mawr.
“Rydyn ni wedi gweld lefelau storfeydd lleol yn dechrau ymadfer ers cyflwyno’r Gwaharddiad Dros Dro ar Bibellau Dyfrio, sy’n dangos bod y cyfyngiadau’n cael yr effaith a fwriadwyd. Er hyn, nid yw lefelau’r storfeydd wedi ymadfer yn ddigonol i ni godi’r cyfyngiadau heb y risg o ddychwelyd i’r un problemau cyflenwi oedd yn ein hwynebu ni cyn eu cyflwyno.
“Rydyn ni’n gwybod bod cwsmeriaid am weld y Gwaharddiad ar Bibellau Dyfrio’n codi cyn gynted â phosib - a ninnau hefyd. Byddwn ni’n codi’r gwaharddiad ar y cyfle cyntaf posibl, ond ddim nes ein bod ni’n hyderus bod y storfeydd lleol wedi ymadfer yn ddigonol i gynnal cyflenwadau dibynadwy i bawb.
“Yn y cyfamser, byddem yn gofyn i gwsmeriaid barhau i ddefnyddio dŵr yn ofalus, gan ddiolch iddynt eto am eu hamynedd, eu dealltwriaeth a’u cefnogaeth barhaus.”
Bydd Dŵr Cymru’n parhau i fonitro’r galw, amodau’r tywydd a lefelau’r storfeydd yn ddyddiol. Bydd y Gwaharddiad Dros Dro ar Ddefnydd yn aros mewn grym cyhyd ag y bo angen, a byddwn yn eu codi cyn gynted ag y bydd y storfeydd lleol wedi ymadfer i lefel sy’n gynaliadwy.
Mae manylion llawn y cyfyngiadau, yr eithriadau a’r codau post o dan sylw ar gael i gwsmeriaid ar wefan Dŵr Cymru.
DIWEDD
Lee MacGregor
lee.macgregor@dwrcymru.com