Dwr Cymru Welsh Water News

20 Oct 2026

Saethyddiaeth Arswyd Calan Gaeaf yn dod i Lyn Llys-y-frân dros hanner tymor!

FrightFest Halloween Archery comes to Llys-y-frân Lake this half-term!

Saethyddiaeth Arswyd Calan Gaeaf yn dod i Lyn Llys-y-frân dros hanner tymor!: FrightFest Halloween Archery at Llys-yfran

Gall teuluoedd fwynhau hwyl dychrynllyd o dda wrth i Saethyddiaeth Arswyd Calan Gaeaf ddod i Lyn Llys-y-frân dydd Gwener 30 a dydd Sadwrn 31 Hydref.

Bydd yr hwyl arswydus yn dechrau yn y ganolfan ymwelwyr, lle gall teuluoedd fod yn greadigol wrth greu pwmpenni Calan Gaeaf. Wedyn bydd hi’n amser mynd draw i’r llain saethyddiaeth a phrofi eu sgiliau wrth geisio saethu sombis, bwci bos a thargedau Calan Gaeaf eraill.

Ac i orffen y cyfan, bydd ymryson y Pwmpenni Calan Gaeaf. Ar ôl cerfio cymeriadau pwmpen, caiff y criw gyfle i brofi a yw eu sgiliau’n ddigon siarp i daro eu creadigaethau Calan Gaeaf â saeth.

Mae Saethyddiaeth Arswyd Calan Gaeaf yn addas i deuluoedd (dros 6 oed) a grwpiau sydd am ychwanegu rhywbeth gwahanol at eu hymweliad â Llyn Llys-y-frân dros hanner tymor.

Cost y sesiynau yw £15 y pen ac mae nifer y lleoedd yn gyfyngedig. Mae dewis o sesiynau 10am, 11.30am, 1.30pm a 3pm. Rhaid bwcio ymlaen llaw ar wefan Llyn Llys-y-frân: https://llys-y-fran.co.uk/events/halloween-archery-special/

Mae rheolau diogelwch safonol saethyddiaeth yn parhau, a bydd gofyn i bawb sy’n cymryd rhan ddilyn cyfarwyddiadau’r hyfforddwr trwy gydol y sesiwn.

Mae yna ddigonedd yn rhagor i’w fwynhau, rhowch gynnig ar Lwybr Natur Calan Gaeaf, gan gasglu cynhwysion y coetir i greu swyn hud a lledrith. Ar ôl cwblhau’r swyn, gall y plant ddychwelyd i’r ganolfan ymwelwyr i gasglu eu gwobr, cyn mynd ati i addurno bisgedi bwci bos yn y caffi.

Gall teuluoedd fwynhau cinio neu ddiod yn y caffi, a gyda BWYD AM DDIM I BLANT trwy gydol hanner tymor, does dim rhaid i ddiwrnod allan fel teulu gostio ffortiwn! Yn syml, prynwch un pryd i oedolyn a chewch un pryd i blentyn AM DDIM. Mae’r fwydlen gyflawn ar ein gwefan.

https://llys-y-fran.co.uk/wp-content/uploads/2026/10/LYF-Autumn-Menu-2026.pdf

Ychwanegwch weithgareddau a threulio’r diwrnod yn Llyn Llys-y-frân, llogwch feics i grwydro’r safle, llosgwch egni yn y maes chwarae antur neu’n ymarfer eich sgiliau beicio ar y trac pympio, ac ymgollwch yn hyfrydwch yr hydref ar un o’n llwybrau cerdded.

Gwybodaeth Cyswllt

Sally Walters
Visitor Attractions Comms & Marketing Manager
Dwr Cymru Welsh Water
sally.walters@dwrcymru.com

Nodiadau i olygyddion

Am fanylion pellach, cysylltwch â:

Sally Walters – Rheolwr Marchnata a Chyfathrebu'r Atyniadau Ymwelwyr

T: 07747 268411             

E: sally.walters@dwrcymru.com

Ymholiadau i swyddfa'r wasg, Dŵr Cymru Welsh Water press@dwrcymru.com